Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Cwrddais â fy ngwraig pan oeddwn yn 28 a phriodasom yn 31. Roedd hi’n ferch hyfryd, yn hardd ei gwedd. Dechreuon ni ganlyn ac yna beichiogodd ac yna roedd yn rhaid i ni briodi, oherwydd byddai wedi bod yn warth cael plentyn tu allan i briodas.

‘Nid oeddem yn adnabod ein gilydd rhyw lawer ac roedd hynny'n effeithio ar y berthynas. Es i mewn i'r weinidogaeth a doedd hi ddim yn barod am hynny. Roedd gormod o straen. Roedd yr awydd i fod yno ar gyfer fy nghynulleidfa bob amser yn golygu fy mod i ond yn mynd yn ôl adref i gysgu. Ni all unrhyw briodas gymryd hynny. Ni allwn gydbwyso fy mhriodas a gwaith.

‘Buon ni gyda'n gilydd am tua 24 mlynedd ac yna fe wnaethon ni wahanu. Mae gennym ddau o blant. Welais i ddim mohonynt am saith mlynedd a dyna oedd y peth mwyaf poenus.

‘Fe wnaeth Ioan 16.20 fy helpu’n fawr. Mae'n dweud, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y byddwch chwi'n wylo ac yn galaru, a bydd y byd yn llawenhau. Byddwch chwi'n drist, ond fe droir eich tristwch yn llawenydd”.

‘Roeddwn i'n gwybod ar y pryd, y byddai'r llawenydd hwnnw'n dod. Ar ôl saith mlynedd o ysgariad, daeth yr un fenyw a minnau yn ôl at ein gilydd. Roedd hi o gwmpas y Pasg. Un diwrnod, cerddodd i mewn i'm swyddfa ac eistedd i lawr. Rydyn ni wedi bod yn ôl gyda'n gilydd ers pum mlynedd, a nawr mae gen i ŵyr.

‘Heb y darn hwn o ysgrythur, byddwn wedi bod allan o'r weinidogaeth a byddwn wedi mynd yn ôl i fod yn gyfreithiwr. Newidiodd yr adnod honno fy mywyd. Rwy'n ei darllen trwy'r amser, hyd yn oed nawr. Rwy'n hoffi teclynnau ac mae gen i’r adnod ar bopeth, fy ffôn, fy nghyfrifiadur. Rwyf wedi pregethu cymaint o bregethau arno. Mae'n golygu llawer i mi.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible