Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Roeddwn i yn fy 30au cynnar ac roedd sawl person wedi awgrymu fy mod yn mynd i’r weinidogaeth. Meddyliais, “Nid fi. Rydych chi'n tynnu fy nghoes.” Roeddwn i'n gweithio yn y Swyddfa Bost. Roedd yn swydd ddibynadwy dda. Roedd gen i fywyd o ryddid hyfryd, cyflog da, teithiais a chwrdd â llawer o bobl.

‘Doeddwn i ddim yn gweld y syniad o fod yn weinidog y peth i mi. Roeddwn i'n meddwl bod gweinidogion yn grand ac yn dod o ysgolion a phrifysgolion parchus. Bûm yn dianc o'r ysgol ac wedi gadael pan oeddwn i'n 15 oed. Gwelais fy hun fel rhywun cyffredin. Roeddwn yn dod o stâd dai cyngor.

‘Ond un nos Sadwrn cefais freuddwyd fyw yn gweld fy hun yn pregethu yn y pulpud. Deffrais yn teimlo wedi fy nghynhyrfu. Pan gyrhaeddais yr eglwys y bore hwnnw, roedd yn rhaid imi wneud y darlleniad, sef o Luc 4. Cyrhaeddais adnod 18 a stopio. Dywed adnod 18, “Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i, oherwydd mae wedi fy eneinio i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy'n gaeth i gael rhyddid, a phobl sy'n ddall i gael eu golwg yn ôl, a'r rhai sy'n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr.”

‘Mae'n debyg mai dim ond am ychydig eiliadau y gwnes i roi'r gorau i ddarllen, ond roedd yn teimlo fel oes. Dywedodd llais yn fy mhen, “Nawr a wnei di gynnig dy hun?” Meddyliais, “Nid yw’n dda i ddim, mae’n rhaid i mi.” Cefais fy nhrwyddedu ym 1987 a dyma ni 33 mlynedd yn ddiweddarach ac rwy'n dal i wneud yr hyn rwy'n gwybod y galwodd Duw arnaf i'w wneud. Rwy'n dal i gael fy nghynnal gan yr adnod honno.

‘Pan fyddaf yn pregethu, rwyf am ddod â’r syniad i bobl fod pawb yn deilwng o gariad Duw a phawb yn rhywun yng ngolwg Duw. Dyna sut rwy’n gobeithio y byddan nhw’n teimlo ac mae hynny wedi fy helpu i deimlo hynny hefyd.’

 

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible