Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Roeddwn i yn fy arddegau hwyr, ac mae'n debyg fy mod ar y pwynt o geisio penderfynu ar gyfeiriad fy mywyd a sut olwg fyddai ar fywyd. Roeddwn i yn Soul Survivor, ac eisteddais i lawr a darllen Joshua 1.9. Mae'n dweud, “Onid wyf wedi gorchymyn iti: bydd yn gryf a dewr? Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr Arglwydd dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei.” Roedd hynny'n hynod o bwerus.

‘Ar yr un pryd, darllenais drwy lyfr yr Actau a phaentiodd lun o bobl Dduw ar genhadaeth i gyrraedd pobl â chariad Iesu.

‘Bryd hynny, roeddwn i wedi bod yn meddwl lle byddwn i'n astudio. Yn sydyn, diflannodd pethau eraill o’r golwg. Deuthum yn argyhoeddedig ein bod ni [fy nghariad, sydd bellach yn wraig i mi] i fod i blannu eglwys yn y Rhondda a gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud nawr.

‘Fe wnes i radd mewn ffiseg. Cefais gyfle i fynd i gael profiad gwaith gyda NASA, ond fe wnaeth y pethau hyn i gyd dorri ar draws hynny. Yn ddiweddarach, cefais gyfle i fynd i Harvard a gwneud gradd Meistr, ond roeddwn i eisiau dod yma a phlannu eglwys.

‘Roedd ein rhieni'n meddwl ein bod ni'n wallgof ac yn meddwl y byddem ni'n tyfu allan ohono. Ond roedd yn benderfyniad gwych. Rwyf wrth fy modd â'r hyn yr ydym yn ei wneud. Rydyn ni'n teimlo ein bod ni'n bobl y gwnaeth Duw inni fod, gan wneud y peth yr oedd Duw eisiau inni ei wneud. Rydyn ni yn y man delfrydol bob dydd. Mae hynny'n braf.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible