Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Yn 2018 cefais ddiagnosis o spondylitis ymasiol (AS), math o lid ar y cymalau sy'n effeithio ar yr asgwrn cefn. Mae'n gyflwr cronig, dirywiol. Mewn rhai ffyrdd roedd yn rhyddhad cael diagnosis. Rydw i wedi bod mewn poen am yn ail ers blynyddoedd. Ond, daeth pethau eraill, fel niwl meddwl a blinder. Roedd hefyd yn dorcalonnus, oherwydd na ellir ei wella ac mae’n tueddu i fod yn gynyddol, er bod cyffuriau sy'n ei gadw dan reolaeth.

‘Ar y diwrnodau pan fyddaf yn stryglo, gall fod yn anodd cofio fy PIN neu gyfarfod. Mae Salm 23 mor adnabyddus fel ei fod yn un o'r pethau y gallaf eu cofio, a'i adrodd yn ôl. Ychydig yn ôl, dechreuais ddarllen gwahanol gyfieithiadau ohono, a dod o hyd i fersiwn The Message ac roedd yn ddadlennol. Cefais fy nharo gan bethau gwahanol.

‘Mae'r cyfieithiad hwn hefyd yn sôn am Dduw yn adfywio “fy mhen llipa”. Mae hynny mor arwyddocaol i mi oherwydd mae sefyll yn syth yn rhywbeth rydw i'n ei chael yn anodd nawr. Felly, mae hynny'n wirioneddol ingol.

‘Mae Salm 23 yn encil diogel. Mae'r gobaith sydd ynddo yn fy helpu i wybod y byddaf yn mynd trwy'r sefyllfa hon. Rwy'n dal i fynd yn ôl at y salm hon. Rwy'n ei darllen o leiaf unwaith yr wythnos. Mae Salm 23 yn gwneud i mi deimlo fy mod yn cael gofal.

‘Rwy'n dal i ddod i delerau â'm diagnosis. Yn syth ar ei ôl, roeddwn i'n teimlo'n isel iawn. Ond rwy'n rheoli hynny'n llawer gwell nawr. Rwy'n llawer mwy ymwybodol o fy symptomau. Ond rydw i'n dal i weithio trwy fy meddyliau ynghlych anabledd a beth mae hynny'n ei olygu. Rydw i wedi colli fy hyder. Roeddwn i wrth fy modd yn dawnsio, a nawr dwi ddim. Nid wyf yn hoffi lluniau ohonof fy hun, oherwydd gallaf weld nad wyf yn hollol syth.

‘Mae Salm 23 yn cwrdd â mi lle rydw i ac yn fy helpu i ddelio â'r presennol. Mae'n rhoi ymdeimlad i mi o gariad cofleidiol Duw a sut mae’n fy meithrin ac mae hynny’n gysur.'

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible