Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Bu farw fy ngŵr ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod clo cyntaf, 23 Mawrth. Rwy'n dal i gredu mai Cofid ydoedd. Cawsom haint ffliw cas iawn. Fe wnes i ddod drosto, ond fe aeth i’w frest ac ni allai gael gwared ar y peswch.

‘Roedd wedi cael strôc yn 2011 ac roedd dementia fel rhan o’r strôc honno. Cafodd wrthfiotigau ac yna gwrthfiotigau dwbl, ond roeddwn i'n poeni oherwydd bod ganddo symptomau methiant y galon. Gelwais am ambiwlans i fynd ag ef i'r ysbyty.

‘Bu yn yr ysbyty am bedwar neu bum niwrnod. Yna gwaethygodd. Es i i'w weld. Roedd yn rhaid i mi i wisgo gŵn a masg. Roeddwn i'n gwybod mai hwn fyddai'r tro olaf i mi ei weld. Roeddwn i jyst angen gweddïo a siarad. Pan oeddwn yn gweddïo, daeth Ioan 14.1-3 i' fy meddwl. Roeddwn i wedi ei ddysgu ar fy nghof pan oeddwn i'n ifanc. Mae'n dweud, " Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon. Credwch yn Nuw, a chredwch ynof finnau. Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi? Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a'ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle'r wyf fi."

‘‘Fe helpodd hynny fi i ddiolch i Dduw am yr hyn oedd yn dod nesaf. Fe helpodd fi i ymdopi â’i farwolaeth, oherwydd roeddwn i’n gwybod bod lle wedi’i baratoi ar ei gyfer. Ar ôl iddo farw, fe wnaeth hyn fy sicrhau ei fod mewn lle gwell. Mae llawer o gysur wedi bod yn hynny.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible