Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Mae fy mywyd yn eithaf anodd. Dair blynedd ar ddeg yn ôl, cefais alwad ffôn gan y plant yn dweud na allai eu mam symud. Roedd ei hasgwrn cefn yn breuo, ac yn ddiweddarach canfuwyd nad oedd ganddi ond hanner ymennydd. Nid wyf wedi gweithio ers hynny. Rwy'n gwneud popeth. Rwy'n ei hymolchi, a’i bwydo. Mae pob diwrnod yn wahanol.

‘Nid wyf wedi bod yn Gristion yn hir iawn, efallai chwech neu saith mlynedd. Pan brynais y Beibl, darllenais Eseia 43.1–3, sy’n dweud, “Pan fyddi di'n mynd drwy lifogydd, bydda i gyda ti; neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd. Wrth i ti gerdded drwy dân, fyddi di'n cael dim niwed; fydd y fflamau ddim yn dy losgi di.” Mae'n dweud bod Duw yn mynd trwy'r amseroedd anodd gyda mi.

‘Byddaf yn mynd yn rhwystredig ac yn ddig. Ond mae Duw yn rhoi tangnefedd i mi pan nad ydw i'n gwybod beth i'w ddweud wrth y plant, ac yn fy ngalluogi i ddal ati pan fydd pethau'n feichus yn emosiynol. Mae'n gymaint o gysur gwybod bod Duw gyda mi.

‘Bu rhai amseroedd tywyll iawn pan na allwn ymdopi mwyach. Yr wythnos hon, derbyniwyd fy merch i uned iechyd meddwl. Roedd hi wedi ceisio lladd ei hun. Rwy'n teimlo'n sâl y tu mewn. Ond rydw i wir yn gallu teimlo presenoldeb Duw yn hyn.

‘Byddaf yn gweiddi ar Dduw ac yna'n ymddiheuro. Byddwn wedi cymryd fy mywyd heb yr adnod honno, oherwydd mae'r straen wedi bod yn erchyll. Mae'n sugno eich nerth. Mae wedi bod yn anodd, ond mae’r adnod honno wedi fy nghadw’n fyw ac wedi rhoi gobaith i mi, a heb obaith does gennych chi ddim byd.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible