Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl
‘Roedd gan fy mam broblemau diod ac roedd llawer o drais yn y cartref. Roedd gen i dri brawd a oedd yn gaeth i heroin. Bu farw un. I mi, roedd hynny’n normal. Roeddem yn ddigon hapus. Ni chredais erioed yn Nuw. Roeddwn i'n meddwl bod y Beibl yn llyfr o straeon ffug i’w dweud wrth blant. Roeddwn i'n credu mewn bodau estron.
‘Pan oeddwn yn feichiog gyda fy ail blentyn, deuthum o hyd i fy nith yn hongian o'r banisteri. Dau fis yn ddiweddarach, bu farw fy Nhad. Roeddwn i wir yn gwrthod credu yn Nuw bryd hynny. Deuthum yn agos at ladd fy hun. Roedd fy mhartner yn ddifrifol gaeth i gocên. Roedd hi’n anodd iawn.
‘Ond ym mis Medi 2018 gofynnodd ei Nain iddo fynd i'r eglwys. Daeth adref yn crio, yn wirioneddol hapus. Dywedais, “Bydd yn ofalus gyda’r bobl hynny”. Y tro cyntaf i mi droedio yn yr eglwys cefais y teimlad bod rhywbeth yn mynd ymlaen yma. Gofynnais i mi fy hun, “A yw’r stwff yma o’r Beibl yn wir?”
‘Ysmygu cyffuriau oedd fy ffordd o ymdopi. Roeddwn i'n ddibynnol arno. Ni ddigwyddodd y newid dros nos, ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae fy mywyd wedi newid yn llwyr, wedi ei droi.
‘Yr adnod sydd wedi fy helpu yw Diarhebion 24.16, sy’n dweud, “Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro, ond byddan nhw'n codi ar eu traed; tra mae un anffawd yn ddigon i fwrw pobl ddrwg i lawr.” Ar y dechrau, es yn ôl cwpl o weithiau i ysmygu cyffuriau. Wedyn, roeddwn yn difaru. Ond daliais i godi. Mae Duw yn rhoi'r nerth inni ddal ati, dal i geisio. Mae Duw yn maddau i mi. Mae wedi bod yn anhygoel.’
Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]
Hoffech rannu sut mae’r Beibl wedi cael effaith ar eich bywyd? E-bostiwch [email protected]