Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl
Bu farw fy ngwraig, Linda bedair blynedd yn ôl. Buon ni’n briod am 36 mlynedd. Yn 2015, treulion ni wythnos anhygoel ar Lindisfarne. Pan gyrhaeddon ni, roedd llyfrnod bach ar fy ngwely. Arno roedd Salm 32.8, ‘Hyfforddaf di a'th ddysgu yn y ffordd a gymeri; fe gadwaf fy ngolwg arnat’. Daeth hynny'n adnod bwysig iawn.
Nawr, mae'r adnod hon yn sicrwydd cyson bod Duw, beth bynnag rwy'n teimlo, yn gwybod am hyn ac os byddaf yn gwrando, byddaf yn ei glywed. Rwyf wedi darganfod gwerth tawelwch mewn ffordd bwerus. Cyn y cloi, roeddwn wedi mynd i'r arfer o fynd ar encilion a cheisio gwrando ar yr Arglwydd. Rwy'n gweld bod tawelwch yn rhoi lle i mi wneud hynny.
Mae wedi cymryd blynyddoedd i mi gyrraedd y pwynt hwn. Dwi erioed wedi bod yn un am fy nghwmni fy hun, ond trwy gydol fy mywyd priodasol roeddwn bob amser yn fodlon bod ar fy mhen fy hun oherwydd gwyddwn fy mod i'n dod adref at rywun. Ers i mi fod ar fy mhen fy hun, rwy'n canfod bod ar fy mhen fy hun yn llawer llai hawdd, a bod yn onest.
Sylweddolais fy mod wedi goroesi profedigaeth, a chanser sy'n anwelladwy, trwy gadw'n egnïol a mynd allan o'r tŷ. Un o fy meiau yw gor-weithgarwch. Hyd yn oed nawr, rydw i'n cael ras gyda fy merch i weld pwy all ddringo'r hyn sy'n cyfateb i Ben Nevis, Yr Wyddfa a Scafell Pike, trwy gerdded a rhedeg i fyny ac i lawr grisiau. Mae Ben Nevis wedi codi aof arnaf braidd, oherwydd bydd hynny'n 672 hediad o risiau.
Ond mae'r adnod hon yn rhoi sicrwydd beunyddiol i mi. Mae'n rhan ohonof i nawr. Does dim rhaid i mi edrych arni hyd yn oed. Gallaf weld fy mod yn gorwneud pethau, a bod pethau y mae angen i mi eu hwynebu a delio â nhw. Dyna'r ffordd mae'n rhaid i mi fynd.
Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]
Hoffech rannu sut mae’r Beibl wedi cael effaith ar eich bywyd? E-bostiwch [email protected]