Skip to main content
Read this in English

Rydw i wedi gwirfoddoli fel caplan yn Heathrow ers saith mlynedd

Fy Meibl: rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

Rydw i wedi gwirfoddoli fel caplan yn Heathrow ers saith mlynedd bellach ac rydwi wrth fy modd gyda’r gymysgedd wrth wasanaethu Duw a bod gyda phobl. Hefyd, os ydw i’n onest, rydwi’n hoffi bod o gwmpas awyrennau! Fe dreuliais i 15 mlynedd yn gweithio yn y diwydiant awyrenau cyn symud at waith yn ymwneud â’r eglwys, ond rydwi’n dal i gael rhywfaint o awyrennau yn fy mywyd.

Gan amlaf mae’n brysur. Rydwi’n gweithio gyda theithwyr a chyda cydweithwyr yn y maes awyr. Efallai bydd rhywun yn gofyn i mi helpu i gael hyd i fag neu dro arall rwy’n cael fy ngalw pan fydd marwolaeth wedi digwydd ar awyren.

Mae tua 76,000 o bobl yn gweithio yn y Maes Awyr a thua 80 miliwn o deithwyr yn cyrraedd Heathrow bob blwyddyn. Ond bellach, mae’r cyfan wedi cwtogi gydag ychydig iawn o awyrennau yn hedfan i ddod â phobl Brydeinig yn ôl gartref a chario nwyddau pwysig i’r rhai yn y rhengoedd blaen sy’n ymladd yn erbyn y pandemig yma. Felly, rwy’n gweithio o gartref ac mae’n brofiad od iawn. Rwy’n colli prysurdeb y maes awyr. Ond mae ffôn ar gael i siarad a Zoom i weld ac rydyn ni’n cael astudiaeth Feiblaidd Zoom bob wythnos. Mae mwy o bobl wedi dod atom gyda hwnnw nawr. Ond rwy’n colli cyfarfod pobl wyneb yn wyneb cofiwch. 

Rydwi’n darllen y Beibl drwyddo bob blwyddyn. Rydwi’n codi am chwech y bore a threulio peth amser yn dawel gyda Gair Duw. Fel roedd y Clwmglo (Lockdown) yma’n dechrau roedden ni i gyd yn gofidio ble caen ni fwyd ac roedd fy narlleniad o Actau 27. Y darn jyst cyn i Paul a’i gyd-deithwyr fynd drwy longddrylliad ydoedd, ac yn union cyn i’r llong suddo mae angel yn ymddangos iddo ac yn dweud wrtho beth sy’n mynd i ddigwydd. Ac mae’r angel yn dweud wrtho, “Paid ag ofni.” 

Roedd y darn arbennig yma yn ddefnyddiol iawn i mi. Fe allwn deimlo tangnefedd Duw a’i bresenoldeb gyda mi, ac mae hynny wedi fy helpu i i helpu eraill. Fe atgoffodd hyn fi fod Duw yno gyda ni ym mhob storm a’i fod Ef am i ni gael ei dangnefedd.

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible