Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Fe roddodd eiriau Eseia 49.13–23 obaith i mi ar amser gwael iawn. Roeddwn i mewn priodas gamdriniol. Roedd fy ngŵr eisiau fy lladd i. Ceisiodd fy mygu pan oeddwn yn y gwely, ac oni bai am fy merch rwy'n credu y byddwn wedi mynd bryd hynny.

‘Fe wnaeth fy mab gyfarfod â dynes a dorrodd ei gysylltiad oddi wrth ei deulu cyfan. Am flynyddoedd ni chlywsom ganddo. Roeddem yn ofidus. Yna, cymerodd fy Nhad - fy nghraig - ei fywyd ei hun. Dydych chi byth yn dod dros hynny. Fe wthiodd fi dros y dibyn mewn gwirionedd.

‘Un diwrnod aeth fy ngŵr yn holloll wallgof a malu’r tŷ i fyny ac aed ag ef i glinig iechyd meddwl. Dywedodd y seiciatrydd, “Nid oes ganddo salwch meddwl, problemau ymddygiad sydd ganddo a dim ond ef all newid hynny.” Dyna ben arni. Roeddwn i'n gwybod na allwn ei gael adref. Darllenais Eseia 49.13–23. Mae'n sôn am lawenhau, a dyna'r peth olaf roeddwn i'n teimlo fel ei wneud. Ynddo, dywed Duw, “Rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo”. Dyna'r darn a'm trawodd. Teimlais fod y pryder wedi'i godi wrth ddarllen hynny. Roeddwn i'n gallu gweld fy hun yn nwylo Duw.

‘Roedd yn teimlo’n broffwydol hefyd. Mae'n sôn am “dy blant a frysiant” a daeth fy mab yn ôl. Mae'n dweud “y mae dy anrheithwyr wedi mynd ymaith” a gadawodd fy ngŵr.

‘Pan ddarllenais y darn hwn, fe wnes i ymddiried ac roeddwn yn gwybod y byddai’n iawn. Newidiodd fy agwedd. Fe ddes i’n fwy cadarnhaol. Rwy'n credu heb yr adnodau hyn na fyddwn yma nawr. Roeddwn wedi cyrraedd y pwynt o deimlo y byddai fy mhlant yn well eu byd hebof i. Fe roddodd yr adnodau hyn obaith i mi.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible