Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl
‘Pan oeddwn yn fy arddegau roedd pwysau i gael ffrindiau poblogaidd a chael cariadon. Ni welais fy hun fel un yn y categorïau llwyddiannus. Cefais lawer o deimladau o gael fy ngwrthod. Mae hynny'n eich tynnu chi i lawr.
‘Sut mae'n fy helpu os yw Duw yn fy ngharu i? Ni allwn weld grym Duw yn fy mywyd.
‘Bu un diwrnod pan oeddwn i'n teimlo mor isel. Fe anfonodd ffrind neges destun ataf gyda Josua 1.5, sy'n dweud, “Bydda i gyda ti, Wna i ddim dy siomi di na dy adael di.” Mae'r adnod hon yn fy atgoffa nad ydw i ar fy mhen fy hun.
‘Heddiw, rydw i'n gweithio mewn gwlad lle mae Saesneg yn ail iaith i mi. Rwy'n dysgu yn fy ail iaith. Rwyf bob amser yn teimlo nad ydw i'n ddigon da gan nad oes unrhyw beth yn gyfarwydd.
‘Ond, yn yr adnod hon mae Duw yn dweud fy mod i'n ddigon da a'i fod gyda mi. Mae hynny'n fy nghadw i fynd. Mae'n rhoi gobaith i mi. Mae'r adnod hon gen i ar nodyn gludiog ar y wal gartref ac mae'n fy atgoffa nad ydw i ar fy mhen fy hun.
‘‘Gall byw dramor wneud ichi deimlo’n ansicr ynghylch pwy ydych chi. Ond Duw yw rhan sefydlog fy mywyd. Gallaf ymddiried na fydd yn fy siomi nac yn fy ngadael. Duw sydd yn rheoli.’
Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]
Hoffech rannu sut mae’r Beibl wedi cael effaith ar eich bywyd? E-bostiwch [email protected]