Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Pan oeddwn tua 10 oed, dysgais Salm 23 ar fy nghof. Roeddwn i mewn oedran lle roedd yn ymddangos mor hyfryd i mi. Roedd mor gysurlon. Fe wnaeth i mi deimlo nad oedd gen i ddim byd i boeni amdano.

‘Pe bawn yn cael ceiniog am bob tro rydw i wedi ei adrodd yn fy mhen, byddwn yn filiwnydd sawl gwaith drosodd erbyn hyn. Rwy’n glawstroffobig ac yn aml ar awyren pan fyddaf yn meddwl, ‘Dydw i ddim yn hoffi hyn,’ byddaf yn adrodd Salm 23 i mi fy hun. Rwyf wedi ysgaru. Rwyf wedi colli plentyn. Nid wyf erioed wedi bod angen dim mwy na Salm 23.

‘Dwi wrth fy modd gydag ef. Rwyf wedi dysgu adnodau eraill ar fy nghof, ond nid wyf hyd yn oed yn cofio rhai ohonynt nawr.

‘Os oes gennych bryderon ariannol - ac rwyf yn wirioneddol wedi bod yn agos at y dibyn yn ariannol - mae hwn yn gysur. Mae rhywbeth yn codi o hyd. Gwn na fyddaf ‘eisiau’. Mae yna’r syniad heddychlon o borfeydd gwelltog a dyfroedd tawel pan rydych yn bryderus, ac mae’r mwyafrif ohonom yn gwybod sut le yw ‘glyn cysgod angau’.

‘Cefais drasiedi deuluol ac ni chysgais am chwe mis. Hyd yn oed yn y math hwnnw o ddyfnder anobaith, mi wnes i droi at Salm 23 o hyd, nid tabledi cysgu. Mae’n well na thabledi cysgu.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible