Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl
‘Pan oeddwn i tua 18 neu 19 oed, roeddwn i’n dweud “Rwy’n dy garu di Arglwydd, ond mae’n rhaid i mi fynd i bartïon a chael cariadon. Dydw i ddim yn teimlo'n ddigon glân i ti, Dduw.” Byddwn yn dweud, “Rydw i eisiau defnyddio'r 5-10 mlynedd nesaf i ddod yn lân a byddaf yn ôl”.
‘Roeddwn eisiau plesio pobl. Meddyliais na fyddai gen i unrhyw ffrindiau pe bawn i'n Gristion. Roeddwn i eisiau bod gyda'r dorf.
‘Yna darllenais Eseia 64: 6, sy’n dweud “Ond aethom i gyd fel peth aflan, a'n holl gyfiawnderau fel clytiau budron”.
‘Felly, sylweddolais, does dim angen i mi wneud dim. Y cwbl oedd ei angen i mi wneud oedd dod at Dduw. Ond roeddwn i eisiau gwneud rhai o'r pethau hynny o hyd. Rwy'n ei gofio fel ddoe. Dyma fy sylweddoliad cyntaf nad oedd yn rhaid i mi wneud unrhyw beth. Pe bawn i'n caru Duw, byddai'n gwneud y gweddill ynof fi. Po fwyaf y rhoddais fy hun iddo, y mwyaf y byddai'n fy ngolchi'n lân. Roedd hynny'n foment ddiffiniol i mi.
‘Rwy’n defnyddio’r adnod hon o Eseia nawr i ddweud wrth fy mhlant y bydd Duw gyda nhw bob amser. Nid wyf yn poeni am fy mhlant. Gallaf fod yn dawel fy meddwl, cyhyd â bod eu sylfaen yng Nghrist, y bydd popeth arall yn gweithio allan.’
Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]
Hoffech rannu sut mae’r Beibl wedi cael effaith ar eich bywyd? E-bostiwch [email protected]