Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Pam ges i’r tatŵ yma o Jona a’r morfil? Yn Jona, fe welwch chi fod sancteiddrwydd yn ymwneud â bendith. Os cewch chi fendith, dylech chi wedyn fendithio eraill. Mae Jona yn pregethu wrth bobl Ninefe. Maen nhw’n edifarhau, ac mae Duw yn maddau iddyn nhw. Felly, mae Jona yn mynd ac yn gwylltio. Ond mae Duw yn dweud wrtho, “Ydy'n iawn i ti wylltio fel yma? Mae yna dros gant dau ddeg o filoedd o bobl ddiniwed yn byw ynddi – a lot fawr o anifeiliaid hefyd”. Petai’n rhaid i mi ddyfynnu un adnod o’r Beibl, yr adnod honno fyddai: “a lot fawr o anifeiliaid hefyd”. Mae hynny’n dangos nad ydy Duw ond yn ymwneud â 120,000 o bobl sydd, os hoffech chi, ar yr ochr anghywir o’r ffens, ond y greadigaeth i gyd. Mae hynny’n effeithio ar sut rydyn ni’n ymwneud â’r amgylchedd, da byw ac anifeiliaid gwyllt. Mae holl blant y llawr yn cael eu bendithio gan Dduw. Mae Duw yno ar adegau o farwolaeth ac amheuaeth. Mae ymateb pobl i fy nhatŵ wedi bod yn gadarnhaol gan fwyaf. Does dim cael gwared arno nawr. Does dim diben dweud wrtha i mai peth gwirion oedd cael y tatŵ. Mae’n sicr yn arwain at sgyrsiau. Mae rhai yn ymwneud â goddef poen, gan ei fod wedi cael ei wneud mewn un sesiwn chwe awr o hyd. Ond roedd o’n werth y boen. Mae’n golygu fy mod i’n cael mynegi syniadau, sy’n eu crisialu. Mae’n golygu siarad am Dduw â phobl sydd heb unrhyw brofiad o’r naratif hwnnw.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible